Galwadau Brys
Caiff glanhawyr simneiau eu galw i fynd i'r afael â phroblemau fel simneiau sy'n cael eu rhwystro gan nythod adar, dail, neu wrthrychau estron eraill, sy'n gallu amharu ar lif aer ac awyru priodol. Gall glanhawyr simneiau hefyd gael eu galw os bydd arogleuon annymunol neu fwg yn mynd mewn i'r cartref, gan y gallai'r problemau hyn fod yn arwydd o rwystr neu ddiffyg arall.
Ar ben hynny, os oes pryderon ynghylch cyflwr adeiledd y simnai, megis craciau neu ddifrod, gall glanhawr simneiau gael ei alw i asesu ac ymdrin â'r materion hyn, er mwyn sicrhau bod y system gyfan yn gweithio’n ddiogel. Yn gyffredinol, mae arbenigedd glanhawr simneiau yn hanfodol er mwyn sicrhau bod simnai yn ddiogel ac yn gweithio'n iawn, drwy ymdrin ag amrywiaeth o broblemau a all godi dros amser.
Os mai dyma'ch unig ffynhonnell o wres, bydd yn flaenoriaeth yn ystod misoedd y gaeaf; gallwn ymateb i geisiadau am ymweliadau y tu allan i oriau neu ymweliadau brys er mwyn datrys problemau sy'n ymwneud â'ch simnai neu stôf.
