Polisi Preifatrwydd

Pwy yw Glanhau Simdda DWT?

Glanhau Simdda D.W.T. yw enw masnachu'r wefan hon sy'n eiddo i Dion Thomas.

Beth yw diben y polisi hwn?

Yn y polisi hwn, mae Glanhau Simdda DWT wedi datgan pa wybodaeth bersonol a gesglir, pryd a pham rydyn ni'n casglu eich gwybodaeth bersonol, sut y caiff ei defnyddio, yr amodau cyfyngedig sy'n rheoli pryd y cawn ei datgelu i bobl eraill, a sut y caiff ei chadw’n ddiogel.

Mae Glanhau Simdda DWT wedi ymrwymo i ennyn ymddiriedaeth a hyder pobl sy'n ymweld â'r wefan. Yn benodol, sylwer nad yw Glanhau Simdda DWT yn gwerthu, rhannu na rhentu eich manylion cyswllt i gwmnïau a busnesau eraill at ddibenion marchnata nac er budd ariannol.

Pryd ydyn ni'n casglu data?

Mae Glanhau Simdda DWT yn casglu eich data personol pan fyddwch chi'n:

  1. Ymweld â'r wefan hon.
  2. Llenwi ffurflen ar ein gwefan.
  3. Cysylltu â ni ar y ffôn.
  4. Anfon e-bost atom.
  5. Gwneud taliad.

Pa fath o ddata ydyn ni'n ei gasglu a pham?

Data personol

Mae angen i ni wybod eich data personol sylfaenol, ee enw, rhif ffôn cyswllt a'ch cyfeiriad e-bost. Rydyn ni'n casglu'r wybodaeth hon er mwyn darparu nwyddau a gwasanaethau i chi, i fynnu ein hawl i gael ein talu yn gyfnewid am ein gwasanaethau.

Dim ond y data personol sydd ei angen arnom er mwyn darparu nwyddau neu wasanaethau y byddwn ni yn ei gasglu gennych chi.

Os na fyddwch chi'n darparu'r wybodaeth bersonol sylfaenol hon, fyddwn ni ddim yn gallu darparu'r nwyddau neu'r gwasanaethau yr ydych chi wedi gofyn amdanynt.

Nid yw Glanhau Simdda D.W.T. yn gwerthu, rhannu na rhentu eich manylion personol na'ch cyfeiriad e-bost i gwmnïau a busnesau eraill at ddibenion marchnata nac er budd ariannol.

Cyfeiriad IP

Nid yw Glanhau Simdda D.W.T. yn casglu eich cyfeiriad IP.

Cwcis

Mae cwci yn ffeil fach sy'n cael ei gosod ar yriant caled eich cyfrifiadur gan ein gwefan. Mae'r ffeil yn cynnwys gwybodaeth sy'n ein helpu i ddadansoddi traffig gwe neu'n rhoi gwybod i chi pan fyddwch chi'n ymweld â safle penodol. Mae cwcis yn caniatáu i gymwysiadau ar y we ymateb i chi fel unigolyn. Gall y cymhwysiad ar y we deilwra ei weithrediadau i'ch anghenion, i'ch hoff bethau a'ch cas bethau trwy gasglu a chofio gwybodaeth am eich dewisiadau. Yn gyffredinol, mae cwcis yn ein helpu i ddarparu gwefan well ar eich cyfer, drwy ein galluogi i fonitro pa dudalennau sy'n ddefnyddiol i chi a pha rai sydd ddim. Nid yw cwci, mewn unrhyw ffordd, yn rhoi mynediad i ni at eich cyfrifiadur nac at wybodaeth amdanoch chi, ac eithrio data rydych chi’n dewis ei rannu â ni.

Cwcis hanfodol

Mae'r cwcis hyn yn gwneud i'r wefan weithio ac nid yw'n bosibl eu diffodd.

Gwrthod cwcis

Mae'r rhan fwyaf o borwyr gwe yn derbyn cwcis yn awtomatig, ond gallwch addasu gosodiadau eich porwr gwe i wrthod cwcis, os yw hynny'n well gennych chi.

Sut ydyn ni'n diogelu eich data personol?

Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw diogelwch data i'n holl gwsmeriaid. Gyda hyn mewn golwg bydd eich data yn cael ei drin â'r gofal mwyaf a byddwn yn cymryd pob cam priodol i'w ddiogelu. Rydyn ni'n defnyddio technoleg ‘https’ (SSL) i ddiogelu mynediad at holl ardaloedd trafodiadol ein gwefan.

Caiff ein system ei monitro yn rheolaidd am wendidau ac ymosodiadau posibl, ac rydyn ni'n cynnal profion diogelwch ar ein gwefan a'n rhwydweithiau i adnabod ffyrdd o wella diogelwch ymhellach.

Pa mor hir ydyn ni'n cadw eich data?

Pan fyddwn ni'n casglu neu’n prosesu eich data personol, dim ond am yr amser sydd ei angen i gyflawni'r diben y cafodd ei gasglu ar ei gyfer y byddwn ni'n ei gadw.

Ar ddiwedd y cyfnod cadw hwnnw, bydd eich data naill ai’n cael ei ddileu neu’n cael ei wneud yn ddienw, er enghraifft drwy ei gyfuno â data anadnabyddadwy arall fel y gellir ei ddefnyddio ar gyfer dadansoddi ystadegol a chynllunio busnes.

 phwy ydyn ni'n rhannu eich data?

Efallai y bydd yn ofynnol i ni ddatgelu eich data personol i’r heddlu neu gorff gorfodi, rheoleiddio neu lywodraeth arall, yn eich gwlad wreiddiol neu rywle arall, ar sail cais dilys. Mae'r ceisiadau hyn yn cael eu hasesu fesul achos ac yn cymryd preifatrwydd ein cwsmeriaid i ystyriaeth.

Mynediad at eich gwybodaeth bersonol

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), mae gennych chi hawl i gyrchu, diwygio neu ddileu unrhyw ddata personol sydd gennym ni amdanoch yn rhad ac am ddim.

Cysylltwch â Dion Thomas, Glanhau Simdda DWT. ar (+44) (0) 7732 398313 neu anfonwch eich cais drwy e-bost.

Cysylltu â'r Rheoleiddiwr

Os ydych chi'n teimlo nad yw eich data wedi cael ei drin yn gywir, neu os ydych chi'n anhapus â’n hymateb ni i unrhyw geisiadau gennych chi ynglŷn â defnydd o’ch data personol, mae gennych chi hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Gallwch gysylltu â'r ICO drwy ffonio 0303 123 1113, neu ar-lein ar https://cy.ico.org.uk/make-a-complaint/

Cafodd y polisi hwn ei greu ar 17/07/2023 ac mae’n cael ei adolygu’n gyson. Cadwch lygad ar y dudalen hon am unrhyw ddiweddariadau.

Gwasanaethau Glanhau Simneiau

Glanhau Simneiau

Mae glanhau simneiau yn dasg cynnal a chadw hanfodol mewn cartrefi sy'n defnyddio lleoedd tân neu losgyddion pren. Prif bwrpas glanhau simnai yw tynnu huddygl, creosot a gweddillion eraill sydd wedi casglu yn ffliw'r simnai. Dros amser, wrth i bren neu danwydd arall losgi, maen nhw'n rhyddhau sgil-gynhyrchion sy'n gallu glynu wrth waliau mewnol y simnai. Wrth i'r rhain gronni, yn ogystal â lleihau effeithlonrwydd y simnai, maen nhw hefyd yn creu perygl tân difrifol.

Galwadau Brys

Caiff glanhawyr simneiau eu galw i fynd i'r afael â phroblemau fel simneiau sy'n cael eu rhwystro gan nythod adar, dail, neu wrthrychau estron eraill, sy'n gallu amharu ar lif aer ac awyru priodol. Gall glanhawyr simneiau hefyd gael eu galw os bydd arogleuon annymunol neu fwg yn mynd mewn i'r cartref, gan y gallai'r problemau hyn fod yn arwydd o rwystr neu ddiffyg arall.

Archwilio simneiau

Mae gwahanol lefelau o archwiliadau simnai yn seiliedig ar hyd a lled yr archwiliad sydd ei angen. Archwiliad simnai Lefel 1 yw'r un mwyaf sylfaenol ac fel arfer caiff ei argymell ar gyfer cynnal a chadw blynyddol. Yn ystod archwiliad Lefel 1, mae'r technegydd simneiau yn archwilio rhannau o'r simnai sy'n hawdd eu cyrraedd, gan wirio eu bod yn gadarn ac wedi'u gosod yn gywir, a gwirio bod pellter digonol oddi wrth ddeunyddiau llosgadwy.

Cael Gwared  Nyth, Pla Neu Anifail Byw

Mae cael gwared â nyth adar o simnai yn dasg angenrheidiol i sicrhau diogelwch a gweithrediad cywir y simnai. Mae adar yn aml yn chwilio am simneiau fel mannau delfrydol i nythu, gan eu bod yn cael eu denu gan y gwres a'r diogelwch y mae simnai yn eu cynnig. Fodd bynnag, gall eu nythod achosi peryglon sylweddol.

Newid Y Gwydr Mewn Llosgydd Pren

Mae gosod gwydr newydd mewn llosgydd pren yn dasg cynnal a chadw sy'n bwysig er mwyn sicrhau bod yr offer yn effeithlon a diogel. Dros amser, gall y gwydr mewn llosgydd pren gael ei staenio neu ei gracio o ganlyniad i wres uchel a defnydd cyson.

Atgyweirio A Chynnal A Chadw Stofiau

Mae rhaglen cynnal a chadw ar gyfer stofiau amldanwydd yn agwedd hanfodol ar sicrhau perfformiad gorau posibl a diogelwch y dyfeisiau gwresogi amlddefnydd hyn. Mae cael gwasanaeth rheolaidd yn sicrhau bod y stôf yn gweithio'n effeithlon, ac yn llosgi gwahanol danwydd fel pren, glo, neu fawn yn effeithiol.

Ffurflen Ymholiad

Adolygiadau Diweddar

Archwilio simneiau

"Dion was incredibly helpful when I asked for a sweep and inspection of a property that we are looking to purchase. He was very flexible with arranging the appointment and kept me up-to-date at all times. The communication was top notch. We will be using his services from now on and will always recommend him to others."

Ryan (Pentrefoelas) - Feb 2025


Glanhau Simneiau

"Great job by Dion, very friendly. Highly recommended"

Shelagh (Bryngwran) - Oct 2024


Glanhau Simneiau

"Very friendly and reliable, arrived on time, swept chimney and fixed a few issues. Highly recommended."

Bethan (Anglesey) - Sep 2024


Glanhau Simneiau

"This service was impeccable. They came out promptly to deal with a old nest and sweeping 4 very old flues at my house refurbishment and were fast and efficient. I especially enjoyed the banter and knowledge of all things fire and chimney based. Great experience. Definitely recommend. Cheers Kate."

Kate (Deiniolen) - May 2024


Glanhau Simneiau

"Dion was recommended to me, as I needed a camera survey of a very old chimney where the fire place had been blocked in and the stack taken away and had been filled in. It was not an easy task and was extremely messy with all kinds of debris coming out. This wasn’t a problem as Dion who dealt with it all successfully and extremely professionally. I would have no hesitation in referring Dion to people other people and will be asking him back to maintain both my chimney’s with wood burners. Thank you."

Julie Mellor (Benllech) - Apr 2024


Cael Gwared  Nyth, Pla Neu Anifail Byw

"Fantastic service! We had a collapsed nest in our chimney and a fly problem. Dion was quick to respond and sorted the removal and clean-up afterwards! We will definitely be booking again. Can’t recommend highly enough, and a special mention for his apprentice! Diolch o galon. Gwasanaeth gwerth chweil."

Fi P. (Tregarth) - Feb 2024